Hafan > Cymunedol > Cymdeithas Rhieni a Chyfeillion
Cymdeithas Rhieni a Chyfeillion
Mae’r Gymdeithas Rhieni wedi ei sefydlu yn yr ysgol. Hoffem feddwl bod y Gymdeithas yn cyflawni tair prif swyddogaeth:
- Codi arian ar gyfer yr ysgol.
- Bod yn fforwm i drafod pynciau addysgol.
- Bod yn gyfrwng i rieni ddod i adnabod eu gilydd yn well.
Cynhelir Cyfarfod Blynyddol y Gymdeithas yn fuan ar ôl dechrau’r flwyddyn ysgol ym mis Medi. Mae croeso i bob un ohonoch i fod yn aelodau o’r gymdeithas hon. Byddwch cystal â chefnogi’r gymdeithas yn ei hymdrechion, a cheisio mynychu cymaint o gyfarfodydd ag y bo modd.