Hafan > Gwybodaeth > Swyddfa ar lein
Swyddfa ar lein
Mae’r ysgol yn darparu prydau ysgol danteithiol ac iachus ar gyfer ein disgyblion bob dydd. Mae’r Ysgol yn caniatau i ddisgyblion gymeryd cinio Ysgol ar rai dyddiau penodol yn unig os ydi rhieni yn dymuno ond rhaid cytuno ar y dyddiau ymlaen llaw. Cost gyfredol cinio ysgol yw £2.50 y dydd. Telir arian cinio ar lein ar safwe “School Gateway”, os ydych yn cael trafferth gyda’r cyfrif yna cysylltwch a Caren Thomas yn yr ysgol. Mae prydau am ddim ar gael i bob plentyn o deuluoedd sy’n derbyn Cynhaliaeth Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith. Mae’r ffurflen sydd ei hangen i hawlio’r hawliad hwn ar gael o swyddfa’r ysgol neu dilynwch y linc isod. Noder bod yr holl ddata Cinio Ysgol yn cael ei gasglu gan yr AALL.
Mae’n well gan rai plant ddod â’u cinio eu hunain i’r ysgol. Gan ein bod yn rhan o Gynllun Ysgolion Iach Gwynedd ein dymuniad yw gweld bwyd iach yn y bocsus bwyd, a dim diod ffisi na fferins.
Mae’r disgyblion i gyd yn bwyta’u cinio yn neuadd yr ysgol am hanner dydd.
Ffurflen Gais Cinio Ysgol am ddim
Nid yw’r llywodraethwyr yn cymeradwyo mynd a disgyblion ar wyliau yn ystod tymor ysgol. Mae gwneud hyn yn arwain at nifer o broblemau yn cynnwys:
- Addysg eich plentyn yn dioddef
- Colli gweithgareddau allgyrsiol
- Colli cysondeb gwaith
O ganlyniad, ‘rydym yn gofyn i chi osgoi mynd ar wyliau yn ystod tymor ysgol os yn bosibl. Os oes rhaid i chi fynd yn ystod tymor ysgol, gofynnir i chi wneud cais ysgrifenedig i’r pennaeth o leiaf mis cyn y gwyliau.