Hafan > Amdanom > Llywodraethwyr
Llywodraethwyr
Cadeirydd / Cyngor Cymuned: Mrs Ceri Hughes
Is-Gadeirydd / Rhieni: Mrs Catrin Jones
Cymunedol: Mrs Elaine Williams
Cyfetholedig: Mr John Hughes
Awdurdod Addysg: Mrs Nia Williams a Dr Eilir Hughes
Rhieni: Miss Emma Jones, Mr Laurent Gorce
Pennaeth: Mrs Annwen Hughes
Athrawon: Miss Eleri Williams
Cynrychiolydd Cwricwlwm: -
Staff Ategol:
Clerc: Miss Caren Thomas
Mae’r Corff Llywodraethu’n gweithio’n agos iawn gyda’r pennaeth, y staff a’r Awdurdod Lleol er mwyn cynorthwyo i ddarparu addysg o’r safon orau posibl ar gyfer holl blant yr ysgol.
Gellir cysylltu â Chadeirydd y Llywodraethwyr, Mrs Ceri Hughes, drwy’r Clerc, Miss Caren Thomas:
Ffôn: 01758 613441
Ebost: Caren Thomas
Dyletswyddau’r Llywodraethwyr
Rhaid i’r Llywodraethwyr gydweithio yn agos gyda’r pennaeth i sicrhau fod yr ysgol yn gweithio’n effeithiol.
- Bod yn ‘ffrind beirniadol’ yn cefnogi yr ysgol i sicrhau’r amodau gorau posibl ar gyfer plant a staff
- Maen nhw’n gyfrifol am berfformiad cyffredinol yr ysgol
- Rhaid iddyn nhw archwilio cwricwlwm yr ysgol yng ngoleuni polisïau’r Awdurdod Addysg.
- Rheoli arian sydd wedi ei drosglwyddo o’r Awdurdod Addysg.
- I fod yn gyfrifol am benodi staff yr ysgol.
- Sicrhau fod gwybodaeth am yr ysgol ar gael i’r rhieni.
- Bod yn gyfrifol am drefnu adroddiad i’r rhieni a threfnu cyfarfod i drafod cynnwys yr adroddiad ag unrhyw fater arall sy’n ymwneud â bywyd yr ysgol.
Disgwylir i’r Llywodraethwyr fynychu hyfforddiant y trefnir gan yr A.Ll. Cynhelir 2 gyfarfod bob tymor yn ystod y flwyddyn. Cynhelir is-bwyllgorau fel bo’r angen.