Croeso
“Cyfle i Bawb Lwyddo”
Croeso i Ysgol Abererch
Mae’r ysgol yn gymuned hapus a gofalgar lle’r ymdrechir i hyrwyddo twf ysbrydol a moesol y plant. Ein nôd yw rhoi cyfle i bawb lwyddo.Mae staff a llywodraethwyr yr ysgol wedi ymrwymo i sicrhau fod bob plentyn yn cael dechreuad cadarn, nid yn unig yn llythrennedd a rhifedd ond hefyd mewn sgiliau, ymagweddau a gwerthoedd sydd yn angenrheidiol i lwyddo wrth iddynt aeddfedu i fod yn oedolion.Mae rhain yn cynnwys gallu cyd-weithio, dyfalbarhau, holi a chwestiynnu, chwilfrydedd a’r meddylfryd o dwf;hynny yw credu mai gwaith caled ac ymdrech sydd yn arwain at lwyddiant nid talent a gallu. Rydym am weld ein disgyblion yn datblygu i fod yn ddysgwyr annibynnol am oes.
Mae pob plentyn yn wahanol,pob un gyda’i gryfderau a’i ddiddordebau.Yn Ysgol Abererch rydym am roi ‘r cyfle i bob plentyn ddarganfod a datblygu ei ddiddordebau a’i gryfderau er mwyn datblygu unigolion dibynadwy a hyderus. I gyflawni hyn, byddwn yn rhoi cyfleoedd a phrofiadau amrywiol ac eang i’r disgyblion fydd yn tanio eu brwdfrydedd a’r awydd i ddysgu. Byddwn yn maneisio ar dechnoleg modern i rannu lluniau o’r profiadau hyn yn ddyddiol ar wefannau cymdeithasol fel Twitter a thudalen Facebook Rhieni(cauedig) yr ysgol yn ogystal a’n gwefan. Credaf fod pob rhiant yn mwynhau gweld lluniau o’u plentyn yn brysur yn yr ysgol ac mae’n rhoi cip-ddarlun iddynt o weithgareddau’r ysgol.
Credaf ym gryf mai partneriaeth rhwng plant, rhieni ac athrawon ydi addysg,wrth gyd-weithio gallwn gyflawni cymaint mwy.Bydd cyfleoedd ffurfiol i chi ddod i drafod cynnydd, cyflawniad a thargedau eich plentyn yn ystod y flwyddyn ac i weld y gwaith. Os oes gennych unrhyw bryder am eich plentyn mae croeso i chi drefnu cyfarfod gyda’r athrawes ddosbarth neu finnau unrhyw adeg.
Yn olaf, hoffwn bwysleisio pa mor bwysig ydi o i ni i sicrhau fod cyfnod eich plentyn yn Ysgol Abererch yn un hapus ac yn llawn o atgofion i’w trysori am byth. Mae pob plentyn yn bwysig yma ac yn haeddu addysg o’r safon uchaf. Mae buddsoddiad y cyngor wrth greu ysgol newydd i ni yn haf 2016 wedi rhoi cyfleusterau modern ac addas i ni wynebu heriau a gofynion addysg yn yr 21ganrif. Mae’n bleser cael gweithio yma gyda’ch plant chi a sicrhau fod pawb yn cael y cyfleoedd a’r profiadau i fedru llwyddo.
Yn gywir
Annwen Hughes
Pennaeth