Ysgol Iach
Mae Ysgol Abererch wedi ymrwymo a Chynllun ysgolion iach Gwynedd ac wedi llwyddo i gael Achrediad Cenedlaethol ac ail-achrediad yn 2022. Mae’r cynllun yn galluogi’r ysgol igyfrannu’n bositif tuag at iechyd a lles y disgyblion, athrawon a’r gymuned ehangach drwy ddatblygu amgylchedd sy’n hyrwyddo iechyd. Mae ysgol Iach yn cyflwyno agweddau iechyd a lles drwy’r canlynol:-
- Y Cwricwlwm Cenedlaethol/gweithgareddau’r Cyfnod Sylfaen
- Y Cwricwlwm cudd ac ethos yr ysgol
- Datblygu ar y cysylltiadau sydd yn bodoli eisioes rhwng y cartref, y gymuned ac asiantaethau arbennigol eraill.
Mae gweithdrefnau beunyddiol yr ysgol yn hyrwyddo ffordd iach o fyw.
Annogir y disgyblion i ddod â photeli dwr gyda nhw i’r ysgol bob diwrnod gan fod manteision enfawr i yfed dwr yn rheolaidd drwy’r dydd. Cyfrifoldeb y disgyblion ydi mynd a’r poteli adref bob diwrnod i’w golchi erbyn y diwrnod canlynol.
Gellir cael mwy o wybodaeth am y Cynllun Ysgolion Iach drwy fynd ar wefan www.ysgolioniachgwynedd.org
Polisiau Defnyddiol
Canllawiau Diogelu Rhag yr Haul
Polisi Addysg Cydbethynas a Rhywioldeb