Hafan > Rhieni > Presenoldeb a gwyliau

Presenoldeb a gwyliau


Presenoldeb

Mae gan yr ysgol ddyletswydd i sicrhau bod y disgyblion yn mynychu’n rheolaidd.  Os nad yw plentyn yn bresennol ar gyfer sesiwn, cânt eu marcio’n absennol. Disgwylir i rieni gysylltu â’r ysgol y bore cyntaf hwnnw fel y gellir rhoi y côd cywir am yr absenoldeb ar y gofrestr.

Yn unol â rheolau’r Cynulliad Cenedlaethol mae’n rhaid i bob ysgol ddosbarthu absenoldebau mewn un o ddwy ffordd: awdurdodedig neu anawdurdodedig

  • Mae absenoldebau awdurdodedig yn arferol yn cynnwys salwch neu apwyntiadau meddgol.  Mae modd hefyd gofyn am hyd at ddeng niwrnod o wyliau mewn un flwyddyn ysgol.  Mae’r Pennaeth yn ystyried y ceisiadau hyn ar sail unigol.  Rydym yn annog rhieni’n gryf i beidio â thynnu eu plant allan yn ystod y flwyddyn ysgol gan fod parhad yn hollbwysig i sicrhau dysgu effeithlon. 
  • Cofnodir unrhyw absenoldebau heb eu hesbonio fel rhai anawdurdodedig. Mae gwybodaeth am bresenoldeb yr ysgol yn cael ei chadw’n electronig gan yr AALl.    

Gall Swyddogion Lles Addysg ymweld â chartrefi unrhyw rieni yr ystyrir bod ffigurau presenoldeb eu plentyn yn bryder i’r Ysgol a’r AALl. 

Presenoldeb Yr Ysgol 23/24

Presenoldeb Tymor 1 = 93.6% 

Targed         =   95%

Beth sydd angen i chi ei wneud os ydi’ch plentyn yn absennol

Mae’n bwysig iawn fod y rhiant yn ffonio yr ysgol cyn 9:15am i roi rheswm dros yr absenoldeb. Mae hyn er mwyn i ni fedru rhoi cofnod cywir yn ein cofrestr ac i sicrhau diogelwch pob plentyn. Mae peiriant ateb yn y swyddfa i adael neges os nad oes rhywun ar gael i dderbyn yr alwad. Nid oes ysgrifenyddes llawn amser yn yr ysgol ac felly os ydych yn ebostio i egluro absenoldeb dylid ei anfon i ebost y pennaeth- pennaeth@abererch.ysgoliongwynedd.cymru. Mae’n rhesymol ac yn ddisgwyledig i ni ofyn beth yw natur y salwch ac am ba hyd y mae’r rhiant yn disgwyl i’r salwch barhau.

 

Ffurflen Absenoldeb/Salwch

Gwyliau yn ystod tymor Ysgol

Nid yw corff llywodraethu‘r ysgol yn cymeradwyo cymeryd gwyliau teuluol yn ystod tymor ysgol.Nid oes gan rieni hawl awtomatig i dynnu disgyblion o’r ysgol ar gyfer gwyliau ac mae camau priodol y dylid eu cymeryd. Mae rhieni ar hyn o bryd yn cael gwneud cais i gael hyd at 10 diwrnod o wyliau yn ystod tymor ysgol gyda chaniatad. Mae’n rhaid i chi wneud cais am y gwyliau ymlaen llaw , yn ddelfrydol cyn archebu y gwyliau -bydd bob cais yn cael ei ystyried yn unigol.Mae’r panel presenoldeb yn edrych ar bethau fel presenoldeb cyfredol y plentyn a  faint o wyliau sydd wedi cael eu cymeryd yn barod yn y flwyddyn addysgol wrth wneud penderfyniad.

Cais Gwyliau Yn Ystod Tymor Ysgol (PDF)

Prydlondeb

Mae’r gloch yn canu am 8:45am a disgwylir i bawb fod yma ar amser oni bai fod amgylchiadau arbennig.Mae cyraedd yn hwyr yn cael ei gofnodi ar y gofrestr .

Cyfnod Gwahardd ar gyfer Heintiau Cyffredin (Mai 2023) Gan gynnwys A-Y o heintiau cyffredin a'r Camau Nesaf

Cyfnod Gwahardd ar gyfer Heintiau Cyffredin (Mai 2023) Gan gynnwys A-Y o heintiau cyffredin a'r Camau Nesaf