Ysgol Eco
Llwyddodd yr Ysgol i ennill Y Faner Werdd yn Haf 2021 sef yr achrediad Gwobr Ysgol Eco a gydnabyddir yn ryngwladol.Mae’r Ysgol wedi gweithio trwy 7 cam a dangos tystiolaeth a llwyddiant ar bob cam er mwyn derbyn y wobr yma.Gellir darllen mwy am y cynllun ar y wefan o dan y tab Addysg:-
www.keepwalestidy.cymru/eco-schools/cy/
Mae gweithdrefnau dyddiol yr ysgol yn hyrwyddo pethau fel
- Ail-gylchu dillad, papur ac adnoddau
- Creu compost
- Casglu sbwriel
- Arbed ynni
- Lleihau ôl traed carbon a milltiroedd bwyd