Hafan > Ysgol > Cynllun Teithio Iach
Cynllun Teithio Iach
Cynllun Teithiau Iach Sustrans
Mae Ysgol Abererch wedi bod yn rhan o’r cynllun Teithiau Iach Sustrans ers 2016 ac wedi derbyn achrediad arian. Nod y cynllun yw ceisio annog rhieni a disgyblion i deithio i’r ysgol mewn ffordd iach naill ai trwy feicio, sgwtera neu gerdded i’r ysgol. Bydd swyddog Sustrans yn cyd-weithio gyda’r ysgol i drefnu gweithgareddau i hyrwyddo hyn. Mae’r cynllun yn cyd-fynd ag egwyddorion ysgol iach.