Hafan > Ysgol > Siarter Iaith

Siarter Iaith


Mae Ysgol Abererch yn gweithredu egwyddorion Siarter Iaith Gwynedd sydd yn hybu’r defnydd naturiol o Gymraeg yn holl fywyd a gwaith yr ysgol.  Gellir cael mwy o wybodaeth a chael golwg ar y Strategaeth yma Siarter Iaith: Fframwaith Cenedlaethol

AMCANION PENODOL:

Addysg Feithrin

Sicrhau, drwy ddarpariaeth a threfniadaeth feithrin bwrpasol a sensitif, y rhoddir i bob plentyn sylfaen gadarn yn y Gymraeg er mwyn ei alluogi i gyrraedd y nod o ddwyieithrwydd llawn maes o law.

Cyfnod Sylfaen

Adeiladu ar y sylfeini a osodwyd i’r Gymraeg drwy addysg feithrin, cadarnhau a datblygu mamiaith y plentyn o ddysgwyr Cymraeg ac ymestyn gafael y plentyn o gartref Cymraeg ar y Saesneg.

Iau

Cadarnhau a datblygu Cymraeg a Saesneg pob plentyn yn eu holl agweddau goddefol a gweithredol, er mwyn sicrhau ei fod yn gallu siarad, darllen, ac ysgrifennu’n rhwydd ac yn hyderus yn y ddwy iaith pan fo’n trosglwyddo i’r ysgol uwchradd. 

Rhoddir 50% o’r amser dysgu i'r Gymraeg a 50% i Saesneg.

Pan ddaw hwyrddyfodiad i mewn i’r ysgol, h.y. plentyn nad yw’n siarad Cymraeg o gwbl, yna cynigir cwrs brys o dymor iddynt yn y ‘Ganolfan Hwyrddyfodiaid’ ym Mhorthmadog.  Yno bydd y plentyn yn rhan o grwp dysgu bychan a bydd yn cael ei ddysgu gan arbenigwyr mewn dysgu Cymraeg fel ail iaith.  Yn ystod y tymor byddant yn dilyn y cwricwlwm ysgol arferol yn ogystal â chael dysgu Cymraeg. Cludir y plant i’r canolfannau yn rhad ac am ddim.

 

Dreigiau Bach

Dreigiau Bach