Hafan > Gwybodaeth > Cais am le
Cais am le
Polisi Derbyn
Mae’r ysgol yn derbyn plant yn rhan amser o’r Medi sydd yn dilyn eu pen-blwydd yn dair oed ac yn llawn amser yn dilyn eu pen-blwydd yn bedair oed.
Croesawir rhieni dalgylch yr ysgol i gysylltu â’r Pennaeth ar gyfer gwneud trefniadau i dderbyn y plentyn i’r ysgol. Dim ond trwy gysylltu â’r Swyddfa addysg leol y gellir cychwyn trafodaeth ynglyn â derbyn plant all-dalgylch.
Yn ystod tymor yr haf gwahoddir yr holl blant sydd yn dechrau’r ysgol ym Medi ynghyd â’r rhieni i dreulio cyfnod yn yr ysgol.
Mae’r Ysgol yn gweithredu yn unol â pholisi derbyn Awdurdod Gwynedd fel a ganlyn:-
Derbynnir plant yn llawn amser ym mis Medi yn dilyn eu penblwydd yn bedair oed ac am 2 awr y bore yn 3 oed. Mae holl geisiadau mynediad yn cael eu cyfeirio at Mr Owain Dewi Hughes yn yr Adran Addysg.
Gwneud cais am le i'ch plentyn yn Ysgol Abererch drwy wefan y Cyngor