Clwb Berch
Gwasanaeth gofalu am blant ar-ôl ysgol 3:00 -5:10pm
Nos Lun- Nos Wener
Mae clwb gwarchod ar ôl ysgol sydd wedi ei gofrestru gyda’r AGGCC ar gael yn Ysgol Abererch. Mae yn cael ei gynnal yn neuadd Ysgol Abererch gan Mrs Sian Roberts a Mrs Bethan Davies Atkinson. Bydd Miss Manon Williams hefyd yn gweithio yn y clwb ar rai dyddiau.
Bydd y plant yn cael diod o lefrith neu ddwr ar ôl cyrraedd y clwb . Mae croeso iddynt ddod a rhywbeth ychwanegol gyda nhw fel byrbryd o adref os ydynt yn dymuno (dim fferins na siocled).
Y gost fydd :-
3.10-3:30pm - £2.50 y plentyn
3:10-4:00pm - £4.50 y plentyn
3:10-5:00pm - £6.50 y plentyn
Mae lle i 18 o ddisgyblion yn y clwb. Bydd gofyn i chi gofrestru eich plentyn er mwyn medru defnyddio’r clwb. Rhaid archebu lle ar system “School Gateway” cyn 5 o’r gloch y noson cynt. Os oes angen defnyddio’r clwb ar fyr rybudd gellir ffonio’r ysgol i weld os oes lle.
Dyma'r linc i archebu lle https://login.schoolgateway.com/0/auth/login